DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LLYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL  

 

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru

DYDDIAD

19 Gorffennaf 2023

ERBYN

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

 

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf gadarnhau wrth Aelodau’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ar 14 Mehefin.

 

Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithiol a'i gadeirio y tro hwn gennyf i. Yn bresennol oedd, George Adam ASA, Y Gweinidog dros Fusnes Seneddol, Llywodraeth Yr Alban, Steve Baker AS, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU a Barwnes Scott, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Llywodraeth y DU.

 

Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i glywed diweddariad gan Lywodraeth y DU ar weithredu Deddf Etholiadau 2022 ac ar ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar ddiwygio etholiadol, yn ogystal â rhoi ddiweddariad ar fwriadau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio etholiadol.

 

Cyhoeddwyd Datganiad ar y cyd ynghylch y cyfarfod ar 18 Gorffennaf 2023: Communiqués from the Interministerial Group for Elections and Registration (dolen allanol, Saesneg yn unig).

 

Rydym yn parhau i gydweithio a bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter. Byddaf yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau.

 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan

fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.